Mae ein ‘Darpariaeth Gyffredinol’ yn cynnwys: addysgu dosbarth cyfan, gwahaniaethu effeithiol, gwaith grŵp cyd weithredol, ymyraethau unigol a grwpiau bach, addasiadau priodol a rhesymol i alluogi mynediad i amgylchedd, cwriclwm a chyfleusterau’r ysgol.
Yn ystod eu cyfnod yn Maenofferen, bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd disgwyliedig yn eu dysgu o’u mannau cychwyn. Os nad yw plentyn yn dod yn ei flaen, byddwn yn casglu arsylwadau, yn defnyddio data asesu ac yn ceisio gweithio ar y cyd ag asiantaethau allanol / gweithwyr proffesiynol i nodi unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Pe byddai rhiant neu’r ysgol yn pryderu am unrhyw ADY gan blentyn, rydym yn dilyn proses o gynnal ymholiad ADY. Pe byddai panel yr ysgol yn gytûn fod gan y dysgwyr ADY byddwn yna yn llunio CDU Ysgol ar eu cyfer. Rydym yn targedu’r targedau o fewn y CDU trwy ymyraethau pwrpasol yn unol â map darpariaeth yr ysgol gan fonitro cynnydd yn dymhorol. Pe byddai’r cynnydd yn isel yn dilyn ymyrraeth, bydd trafodaeth yn digwydd er mwyn cyflwyno’r CDU i fforwm ADY yr Awdurdod neu i’r panel ADY.