Ein gweledigaeth yn Ysgol Maenofferen yw y bod pob disgybl yn derbyn addysg lawn ac eang o’r radd flaenaf; yn datblygu hyd eithaf ei gallu ac yn mwynhau eu hamser yn yr ysgol. Rydym yn anelu i greu a chynnal amgylchedd sydd yn hyrwyddo lles a hapusrwydd disgyblion, yn ogystal â’u datblygiad cyflawn fel unigolion sy’n seiliedig ar barch a gofal at ei gilydd, eu hardal leol a’u hamgylchedd.
Rydym ni’n awyddus i blant Ysgol Maenofferen adael yr ysgol yn ddisgyblion hyderus, sy’n mwynhau dysgu. Dymunwn ennyn dysgwyr sy’n barod i wynebu sialensiau, i fedru dysgu’n annibynnol, yn ogystal â gallu cydweithio’n effeithiol a chymhwyso ystod o sgiliau i wahanol sefyllfaoedd.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a’i barchu a rhoddwn bwyslais arbennig a bri ar ddathlu llwyddiannau ein disgyblion yn yr ysgol ac yn y gymuned.
Ceisiwn wireddu hyn trwy ddarparu Cwricwlwm cytbwys, amrywiol a chyfoethog sydd yn rhoi profiadau dysgu diddorol bythgofiadwy er mwyn ysgogi chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn. Yn ei dro, bydd hyn yn paratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion lleol a byd eang.
Mae Llais y Plentyn yn bwysig iawn yn Ysgol Maenofferen. Credwn gall cyfranogiad disgybl at y dysgu a’u cynnwys mewn penderfyniadau i greu amgylchedd grymuso sy’n cynyddu dyheadau, yn ogystal â datblygu agweddau positif mewn pobl ifanc.
Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, eu Cymreictod yn ogystal â’u teyrngarwch at y gymuned leol a’i hetifeddiaeth, tra ar yr un pryd, yn datblygu parch at gred a diwylliannau eraill.
Pwysleisiwn fod y bartneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol er lles pob un o’n plant yn hanfodol. Ein gobaith yw y bydd y cydweithio yn effeithiol er mwyn sicrhau bod yr amser mae eich plant yn ei dreulio yn yr ysgol yn gyfnod hapus a llwyddiannus yn eu bywydau a bydd pob un yn datblygu’n addysgol a chymdeithasol.
Gyda’ch cydweithrediad, gallwn fagu hyder yn y plant i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes.
Datganiad gan y Plant
Ein bwriad yn Ysgol Maenofferen yw creu ysgol hapus, lle mae pawb yn cael cyfle, yn gwneud eu gorau bob amser, yn cael mwynhad o ddysgu ac yn gofalu am ei gilydd.
Yn dilyn gwrando ar ein dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach y geiriau allweddol gododd amlaf oedd: