Croeso cynnes i wefan newydd Ysgol Maenofferen ble ceir y wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol a’r holl fwrlwm sydd yn digwydd yma, a mawr obeithir y gwelwch ei chynnwys yn ddefnyddiol.

Mae arwyddair yr ysgol, “Mae dyfodol yfory yn dechrau yma heddiw”, yn pwysleisio pwysigrwydd darparu profiadau dysgu bywiog a pherthnasol a fydd yn arfogi pob un o’n disgyblion gyda’r sgiliau eang i’w cynorthwyo ar eu taith bywyd.

Ein nod yw cyflawni hyn mewn amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol, lle mae cyfraniadau  holl aelodau cymuned ein hysgol yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi. Rydym yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial.

A.M Williams

Pennaeth