Mae’r ysgol wedi ennill Cam 5 o’r Cynllun Ysgolion Iach. Cynllun yw hwn sy’n hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ffordd o fyw iach.
Fel rhan o’n hymdrechion, rydym yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer, deiet, hylendid a diogelwch personol mewn ffordd hwyliog.